Amdanom Ni
Adeiladu seilwaith tynnu carbon Cymru, gyda'n gilydd
Ein Enw, Ein Cenhadaeth
Clo - gair Cymraeg, cenhadaeth Gymreig. Ni'n cloi carbon mewn biolosg ac yn ddwfn yn y pridd, lle mae'r carbon yn aros dan glo & mae'r gwerth yn aros yng Nghymru.
Ein Targed 2032
Yn flynyddol, byddwn yn cyflawni o leiaf 350,000 tunnell o dyniadau CO₂c parhaol erbyn 2032.
Mae cyflawni hyn yn golygu partneru â hyd at 5,000 o ffermwyr a thirfeddianwyr mewn ymdrech wirioneddol gyfunol i drawsnewid o leiaf 30,000 hectar o'n tîr amaethyddol yn ddatrysiad storio carbon unedig, parhaol.
CO2e dynnir yn flynyddol
Ffermydd a gefnogir
Amaethgoedwigaeth newydd
Pam Dechreuon Ni
Mae cyfyngu cynhesu byd-eang yn gofyn am dynnu biliynau o dunelli o CO₂ o'r atmosffer. Mae'r Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) yn glir: mae tynnu carbon deuocsid yn hanfodol i gyflawni sero-net. Ond mae sut mae'r carbon hwn yn cael ei dynnu - a phwy sy'n elwa - yn bwysig.
Mae gan Gymru hanes hir o echdynnu adnoddau, lle gadawodd gwerth gymunedau tra bod costau amgylcheddol yn aros. Wrth i dynnu carbon dyfu'n fyd-eang, mae modelau echdynnol tebyg yn ymddangos, gyda gwerth yn cael ei gipio gan blatfformau pell yn hytrach na chymunedau lleol.
Rydym yn credu y gall tynnu carbon weithio'n wahanol. Gall gyflawni effaith carbon tra'n creu gwerth economaidd a chymdeithasol lleol parhaol. Rydym yn adeiladu'r seilwaith i alluogi'r model hwnnw.
Mae tegwch yn sail i'n dull: tynnu carbon sy'n cryfhau cymunedau, yn defnyddio tir a llafur lleol ac yn sicrhau bod manteision yn cael eu rhannu'n lleol - tra'n cyfrannu at nodau hinsawdd byd-eang.
Pwy Ydy Ni
Mae ein tîm sylfaenu yn cyfuno 55+ mlynedd o brofiad ar draws cynhyrchu amaethyddol, economeg, trosi thermol biomas, rheoli tir, ymchwil a datblygu pyrolytig, dylunio systemau & datblygu cynnyrch digidol - Sy'n ein gosod mewn sefyllfa unigryw i bontio arferion ffermio traddodiadol â'r arloesiadau tynnu carbon diweddaraf.
Cwrdd â'n cyd-sylfaenwyr
Dr. Robert Johnson
Gwyddoniaeth Carbon a Biolosg
Richard Edwards
Defnydd Tîr a MRV
Manufactured and marketed ‘horticultural charcoal’ before the term biochar had entered the lexicon. Supported the Bioregional Group’s effort to make UK produced bbq charcoal available through all UK B&Q stores. Consultant for UNEP/FEMA designing and testing biochar/torrefied fuel-based micro-scaled power generation systems. Designed the original concept of Cynon Taf Community Housing Group’s ‘Down-to-Zero’ project. Expertise in biogenic carbon dynamics and the design and implementation of carbon removal measurement, recording and verification (MRV) protocols.
Cai Matthews
Datblygu Busnes a'r Platfform
Sut Ni'n Gweithio
Mae ffermwyr eisoes yn stiwardio tua 90% o dîr Cymru. Gyda'r offer cywir a chymhellion teg, rydym yn gwybod bod ganddynt y wybodaeth a'r profiad i gyflawni tynnu carbon i'r safonau uchaf.
Ein ffocws yw darparu'r offer hynny. Cymwysiadau biolosg ymarferol, wedi'u graddio'n briodol ac ar seilwaith digidol cadarn, disylw sy'n dod o'n profiad gwaith, ac o wybod mai dim ond pan fydd arloesedd hinsawdd yn cwrdd â realiti bywyd ffermio bob dydd y gall newid ddigwydd.
Pontio'r Rhaniad
Rydym wedi gwylio'r bwlch rhwng llunwyr polisi a chymunedau ffermio yn tyfu gyda phryder gwirioneddol. Mae polisîau hinsawdd â bwriadau da sy'n camddeall realiti amaethyddol yn creu gwrthwynebiad lle mae angen aliniad a gweithredu ar y cyd. Gyda llai a llai o amser i weithredu ar yr argyfwng hinsawdd, ni allwn fforddio'r rhaniad hyn.
I ni, mae llwyddiant yn golygu llawer mwy na thunelli o garbon a dynnir. Mae'n ffermydd teuluol yn ffynnu i'r genhedlaeth nesaf, cymunedau gwledig wedi'u hadfywio gan ddiwydiannau gwyrdd. Ein huchelgais yw profi bod gweithredu hinsawdd a chyfiawnder cymdeithasol yn cynrychioli'r un nodau, gweithredoedd a chanlyniadau.
Adeiladu Ein Seilwaith Cyfunol
Rydym yn creu seilwaith tynnu carbon cyfunol Cymru, sy'n golygu creu strwythurau llywodraethu sy'n sicrhau bod gan ffermwyr a chymunedau lais a pherchnogaeth wirioneddol yn y system maent yn ei hadeiladu.
Rydym ar hyn o bryd yn ffurfio strwythurau cyfranogol a phaneli cynghori, gyda mewnbwn gan ein partneriaid ffermio cynnar a rhanddeiliaid o undebau ffermio, llunwyr polisi'r sector cyhoeddus a rhanddeiliaid diwydiant allweddol.
Mae'r gwaith llywodraethu yma yn cael ei arwain, yn rhannol, gan egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'n cred sylfaenol: dylai'r rhai sy'n gwneud gwaith tynnu carbon lunio sut mae'r system yn gweithredu, a rhannu yn ei llwyddiant.
Bydd fframweithiau llywodraethu llawn yn cael eu lansio wrth i ni dyfu gyda'n cymuned ffermio. Os oes gennych ddiddordeb mewn llunio'r strwythurau hyn, cysylltwch â ni.
O Gymru i'r Byd
Yng Nghymru, mae gennym yr amodau a'r adnoddau naturiol i ddangos dynnu carbon sy'n canolbwyntio ar y gymuned ar raddfa: tîr amaethyddol crynodedig, traddodiadau cydweithredol cryf, fframweithiau polisi cefnogol, a chymunedau sydd angen adfywiad economaidd.
Ond nid ydym yn ynysig... Mae gweithredu hinsawdd effeithiol yn gofyn am ymdrech gydlynol ar draws rhanbarthau a ffiniau. Wrth i ni adeiladu a mireinio ein dull, rydym yn dogfennu beth sy'n gweithio (a beth sydd ddim) i eraill sy'n mynd i'r afael â heriau tebyg yn eu cyd-destunau eu hunain.
Mae'r methodolegau rydym yn eu datblygu yma - ar gyfer strwythurau cefnogi ffermwyr, cymwysiadau biolosg, a rhannu gwerth yn deg - wedi'u dylunio i fod yn addasadwy ac yn wydn i'r hinsawdd. Mae gan wahanol ranbarthau systemau amaethyddol gwahanol, amgylcheddau polisi, a strwythurau cymunedol... Rydym yn adeiladu gyda'r realiti hyn mewn côf a golwg.